Hufenfa De Arfon yn torri i mewn farchnad laeth broffidiol yr Unol Daleithiau
Mae Hufenfa De Arfon yn torri i mewn i farchnad laeth broffidiol yr Unol Daleithiau ac wedi derbyn eu harcheb gyntaf ar gyfer caws a menyn Dragon arobryn ar gyfer marchnad America yn sioe fasnach yr International Dairy Deli Bakery Association (IDDBA) yn Anaheim, Califfornia.
Yn dilyn ymweliad masnach bwyd a diod Llywodraeth Cymru â phrif sioe’r Speciality Food Association (SFA) - Summer Fancy Food, yn Efrog Newydd y llynedd, a misoedd o gyfarfodydd ar-lein gyda’r dosbarthwr Americanaidd Abbey Specialty Foods, mae’r cwmni llaeth cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr o Gymru bellach wedi taro bargen ar gyfer eu llwyth cyntaf ac yn arddangos cynnyrch Dragon yng Nghaliffornia yr wythnos hon (4-6 Mehefin).
Mae Abbey Specialty Foods yn arbenigo mewn mewnforio a dosbarthu caws arbenigol ledled America, a gan fod yr Unol Daleithiau yn un o’r marchnadoedd pwysicaf y tu allan i’r UE ar gyfer cynnyrch llaeth y DU – gyda gwerth mwy na £50 miliwn o gaws wedi’i gludo i America yn 2021¹, roedd Hufenfa De Arfon yn awyddus i archwilio'r farchnad hon ymhellach.
Dywedodd Rheolwr Marchnata Hufenfa De Arfon, Kirstie Jones, “Roedd yn wych cyfarfod â Tom o Abbey Specialty Foods yn Efrog Newydd llynedd, ac yn well byth ein bod wedi gallu adeiladu ar y berthynas honno.
“Ar ôl nifer o gyfarfodydd ar-lein, gwnaethom gyfarfod yn bersonol eto yn Arddangosfa Fwyd Ryngwladol SIAL ym Mharis fis Hydref diwethaf i drafod sut y gallem gydweithio, ac rwy’n hapus i gyhoeddi bod popeth wedi mynd yn dda ac nad ydym yn allforio i’r Unol Daleithiau yn unig ond yn arddangos ein cynnyrch ar stondin Abbey Foods yn yr IDDBA i ddarpar gwsmeriaid gyda dosbarthwr yn ei le.
“Mae sicrhau refeniw newydd o fusnes yn allweddol yn y marchnadoedd sy’n newid yn barhaus, ac mae cael troed yn y drws yn yr Unol Daleithiau yn fuddugoliaeth wych i ni.
“Yn ystod tri mis cyntaf 2022, cododd gwerth allforion caws y DU i’r Unol Daleithiau 25% o’i gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol gyda llwythi gwerth £13 miliwn², ac rydyn ni eisiau cael darn o hynny.”
Ychwanegodd Miss Jones: “Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd i dyfu’r busnes, ac mae’r fargen allforio hon rydyn ni wedi’i sicrhau yn dipyn o gamp i’r cwmni. Rydyn ni’n gobeithio adeiladu ymhellach ar y berthynas newydd hon yn yr UDA a darparu mwy o'n cynnyrch i'n cwsmeriaid Americanaidd."
Rhwng 2020 a 2021 Cymru oedd â’r cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth allforion bwyd a diod o bedair gwlad y DU, gan godi £89 miliwn, sef twf o 16.1%, gyda gwerth llaeth ac wyau adar yn cyrraedd £106m yn 2021.³
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Abbey Specialty Foods, Tom Slattery, “Rydyn ni’n llawn cyffro i ychwanegu brand blaenllaw Hufenfa De Arfon, Dragon at ein catalog o gynnyrch llaeth sy’n ategu ein detholiad o gawsiau Ewropeaidd. Mae Cymru’n adnabyddus am ei bryniau tonnog a’i phorfeydd gwyrddlas sy’n adnabyddus am gynhyrchu Cheddar Cymreig safonol yr hufenfa, sydd wedi bod yn boblogaidd gyda’n cwsmeriaid a’n mynychwyr yn yr IDDBA.”
Am fwy o wybodaeth ac i archebu caws Dragon ar-lein ewch i https://dragonwales.co.uk/.