Hufenfa De Arfon wedi mwynhau blwyddyn lawn dop o wobrau

Mae Hufenfa De Arfon yn dathlu blwyddyn aruthrol o wobrau ar ôl ennill cyfanswm o 97 o wobrau eleni, eu blwyddyn orau erioed gyda chynnydd o 28%.

Ers lansio eu hysbyseb deledu Caws Dragon Bob Dydd Bob Ffordd ym mis Mai a thorri i mewn i farchnad laeth broffidiol yr Unol Daleithiau ym mis Mehefin, mae cwmni llaeth cydweithredol mwyaf blaenllaw Cymru sy’n eiddo i ffermwyr wedi mynd o nerth i nerth.

Enillwyd gwobrau di-ri yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol, Sioe Swydd Gaer, Sioe Swydd Efrog, Sioe Canol Gwlad yr Haf a Sioe Frenhinol Cymru. Allan o gyfanswm o 97 o wobrau, roedd 40 yn aur ac enillodd Caws Dragon Ruby Wedi’i Wneud â Llaw y Caws Gorau gyda Menyn Hallt Dragon yn ennill gwobr y Menyn Gorau yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Ar ôl Sioe Frenhinol Cymru, bu’r hufenfa’n fuddugol yn y Great Taste Awards gan hawlio dwy seren am eu Menyn Hallt Dragon ac un seren yr un am eu Caws Dragon Ruby Wedi’i Wneud â Llaw a Chaws Dragon Emerald Wedi’i Wneud â Llaw.

Yn y Gwobrau Caws Byd-eang llwyddon nhw i ennill 15 gwobr o Aur i Efydd am amrywiaeth eang o’u cynnyrch, o Double Gloucester, Caws Braster Isel i’r Caws Llysieuol Gorau gyda’u Caws Dragon Ruby Wedi’i Wneud â Llaw.

Dywedodd Mark Edwards, Pennaeth Gweithrediadau, “Hoffem ddiolch i’n holl staff, o gynhyrchu, i weinyddu, i’n ffermwyr-aelodau. Heb ein tîm cryf ni fyddem yn gallu gwneud y cynhyrchion anhygoel hyn a chael blwyddyn mor gyffrous.

“Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio llaeth Cymreig o’r ansawdd gorau, i gynhyrchu cynnyrch llaeth o’r ansawdd gorau, ac mae’r gwobrau hyn yn arddangos y gwaith gwych rydym wedi’i gyflawni.”

Ychwanegodd Shôn Jones, Rheolwr Ansawdd Caws, “Mae llwyddiant rhyfeddol eleni’n dyst i'n hymroddiad i ansawdd ac arloesedd. Mae ymgais ddi-baid ein tîm i sicrhau rhagoriaeth mewn gwneud caws yn cael ei adlewyrchu ym mhob gwobr rydym wedi'i hennill. Mae’r gwobrau hyn nid yn unig yn anrhydeddu ein crefft ond hefyd yn amlygu treftadaeth gyfoethog ac ansawdd eithriadol cynnyrch llaeth Cymreig ar y llwyfan byd-eang.”

Ar gyfer stocwyr lleol neu i brynu cynnyrch Dragon ar-lein ewch i: https://dragonwales.co.uk/cy/stocwyr/ neu https://dragonwales.co.uk/cy/.