Llwyddiant ysgubol i Hufenfa De Arfon yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol
Mae Hufenfa De Arfon wedi cael ei blwyddyn orau yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol gan hawlio pum gwobr aur, un wobr arian a phedair gwobr efydd am ei detholiad eang o gawsiau Cheddar, Double Gloucester, Red Leicester a chaws Caerffili.
Mae’r Gwobrau Caws Rhyngwladol yn denu dros 5,500 o geisiadau bob blwyddyn. Dyma’r platfform mwyaf yn y byd sy’n hyrwyddo cynhyrchwyr caws a chynnyrch llaeth o’r radd flaenaf ac mae llwyddiant yn dod â chydnabyddiaeth proffil uchel, nid yn unig ymhlith manwerthwyr y DU, ond ar y llwyfan rhyngwladol.
Ar ôl ennill gwobr fawreddog ‘Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023 yn ddiweddar, mae’r cwmni llaeth cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr yn mynd o nerth i nerth. Hyd yn hyn eleni, mae Hufenfa De Arfon hefyd wedi sicrhau unarddeg gwobr yn Sioe Sir Dyfnaint, saith yn Sioe Swydd Gaer ac efydd yn Sioe’r Ucheldir.
Mae’r gyfres o wobrau yn dilyn hanner cyntaf prysur i'r flwyddyn i’r hufenfa, gyda lansiad ei hysbyseb deledu ar gyfer ei brand blaenllaw Dragon, ei gwefan Dragon newydd a gwell a thorri cwys i farchnad laeth broffidiol yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, Alan Wyn Jones, “Rydym ni wedi cael blwyddyn hynod lwyddiannus yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol, y flwyddyn orau erioed. Mae hyn yn dyst i holl waith caled y tîm yn Hufenfa De Arfon, o’r ffermwyr sy’n cynhyrchu’r llaeth o ansawdd uchel, i’n tîm cynhyrchu caws sy’n fedrus iawn.
“Mae ennill un o’r gwobrau enwog yma yn golygu bod yn rhan o grŵp elit a thraddodiad 125 mlynedd o’r goreuon, ond mae hawlio cyfanswm o 10 gwobr yn rhagorol.
“Eleni mi wnaethom ni chwalu'r hat-tric gwobrau aur llynedd wrth ennill pump, sy’n adlewyrchiad go iawn o ansawdd eithriadol y caws rydym ni’n ei gynhyrchu yma yn Hufenfa De Arfon.”
Am fwy o wybodaeth ac i archebu caws Dragon ar-lein ewch i https://dragonwales.co.uk/.