Cefnogi Hosbis yn y Cartref
Mae Hufenfa De Arfon wedi casglu dros £1000 at elusen leol Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn.
“Mae Hufenfa De Arfon yn awyddus iawn i godi arian at achosion lleol. Credwn ei fod yn bwysig i ni geisio codi arian pob blwyddyn i elusennau sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i gymuned wledig fel hon. Pob blwyddyn byddwn yn cynnal raffl Nadolig ac yn dewis elusen i’w gefnogi” dywedodd Haf Williams o Hufenfa De Arfon. “Eleni, dewisodd staff Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn. Mae hwn yn elusen gwerth chweil ac yn un sy’n dibynnu ar gyfraniadau elusennol, felly rydym yn falch iawn y bydd ein cyfraniad ni o help i’r achos.”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gefnogodd y raffl ac i’r rhai a gyfrannodd wobrau a chyfrannu’n ariannol, yn arbennig staff, Brooktherm, MWL, Cwrw Llŷn, Storax, Milgate, CHR Hansens, Comcen, Gwesty’r Lion Criccieth, Portmeirion, Beer Gas Cymru, Tetra Pak, ICE, ALPMA, PFM, GAP Personnel, Pensaer AP Thomas, Rotary Group and David Kellet a’i Bartneriaid.”
Cyflwynodd Hufenfa De Arfon siec i Keri McKie, Swyddog Codi Arian Cymundeol i Hosbis yn y Cartref Gwynedd a Môn. Dywedodd “Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth busnes lleol mor nodedig ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i bawb am yr holl waith maent wedi ei wneud i godi’r arian.”