Gwobr Bwyd a Diod Cymru
Mae’r flwyddyn yn parhau yn un llwyddiannus i Hufenfa De Arfon gyda Gwobr Bwyd a Diod 2016, Cynnyrch o Gymru yn y bag nawr hefyd. Mae’r wobr yma yn edrych ar gwmnïau bwyd neu ddiod yng Nghymru ac yn cydnabod y rhai sydd wedi dylanwadu fwyaf o ran arloesedd, defnydd o gynhyrchion Cymreig, gwerth uwch a llwyddiant masnachol.
Dysgodd y beirniaid am fuddsoddiad lluos-filiwn diweddar Hufenfa De Arfon mewn uned cynhyrchu caws newydd, a sut oedd yr uned yma wedi galluogi’r cwmni i gynyddu ei gallu cynhyrchu o 25 y cant gan hefyd ddiogelu 100 o swyddi. Dywedodd un o’r beirniaid “Maent wedi newid o gynhyrchiant sylfaenol i fod yn gynhyrchwr arloesol, menter aruthrol”.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “Rydym yn falch iawn o ennill Gwobr Bwyd a Diod Cynnyrch o Gymru gan ei fod yn cydnabod y buddsoddiad rydym wedi ei wneud yn y diwydiant a’r economi leol. Ar hyn o bryd mae’n gyfnod heriol i gynhyrchwyr a phroseswyr llaeth ac rydym wedi cymryd cam beiddgar i fuddsoddi yn y dyfodol.”
“Rŵan mae gennym yr adnoddau cynhyrchu gorau yn ein dosbarth ac yn un wnaiff gefnogi ein strategaeth twf. Bydd yr uned newydd, mwy neu lai o’r dechrau, yn cynhyrchu i’w llawn medr gan ein bod wedi diogelu cytundebau archfarchnadoedd mawr. Mae gennym hefyd gynlluniau ar y gweill i ehangu gwaith gyda chwsmeriaid allweddol eraill a dal ati i ddatblygu cynhyrchiant arloesol .”
“Mae’r cwmni wedi cychwyn ar daith ac rydym wedi gwneud cynnydd da yn y blynyddoedd diweddar, ond mae digon i’w wneud eto. Byddwn yn canolbwyntio nawr ar sicrhau bod y buddsoddiadau sydd wedi eu gwneud yn llwyddiant er budd ein haelodau a staff.”
Casglodd Hufenfa De Arfon y Wobr Bwyd a Diod Cynnyrch o Gymru yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 19eg Hydref 2016. Yn ogystal ag ennill y wobr bwyd a diod, roedd y cwmni ffermwyr llaeth hefyd at y gorau yng nghategorïau arloesedd a Gwneuthurwr Bwyd Mawr y flwyddyn. Mae’r gwobrau unigryw yma yn dathlu cynhyrchion gorau a’r busnesau gorau o bob maint ar draws Cymru.