Cwmni cydweithredol llaeth mwyaf blaenllaw Cymru yn enwi Paul Savage yn Gadeirydd newydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr

Yn ddiweddar, mae Hufenfa De Arfon, Cwmni llaeth blaenllaw’r diwydiant llaeth yng Nghymru, wedi cyhoeddi bod Mr Paul Savage wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr o 1af Ionawr 2025 pan fydd y cadeirydd presennol, Bernard Harris yn rhoi’r gorau i’r swydd.

Gyda gyrfa ddisglair yn y diwydiant llaeth a dros 25 mlynedd o fewn FMCG (Nwyddau Defnyddwyr Sy’n Symud yn Gyflym), mae Mr Savage ar fin dod â thon newydd o arweinyddiaeth i Hufenfa De Arfon.

Mae’n hannu o bentref ger Huddersfield, Swydd Efrog, ac yn ei rôl ddiweddaraf fel Cyfarwyddwr Amaethyddol Arla, gwelwyd Mr Savage yn arwain ymdrechion i feithrin mentrau ffermio llaeth a hyrwyddo cynhyrchion llaeth fel rhan sylfaenol o system fwyd gynaliadwy. Mae ei brofiad helaeth ym maes rheoli, gwerthu a chadwyni cyflenwi wedi bod yn allweddol wrth ysgogi twf ac arloesedd.

Mae penodiad Mr Savage yn nodi carreg filltir arwyddocaol i Hufenfa De Arfon wrth iddo barhau i ehangu a gwella gweithrediadau. Wrth groesawu Mr Savage i Hufenfa De Arfon, dywedodd Moss Jones, Llywydd y Gymdeithas ei fod ef a'r Bwrdd yn edrych ymlaen at gydweithio i barhau i ddarparu gwerth cyfranddalwyr i'w haelodau.

Aeth Mr Jones ymlaen i ddweud, “Aeth y Bwrdd drwy broses recriwtio helaeth a ddenodd nifer uchel o ymgeiswyr o safon. Mae’n bleser gennym benodi Paul yn Gadeirydd y Gymdeithas. Rydym yn hyderus y bydd Paul yn ychwanegiad gwych i’r tîm gan y bydd yn dod â chyfoeth o brofiad arwain yn y sector llaeth gydag ef. Mae Hufenfa De Arfon wedi tyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf a bydd Paul yn ein cynorthwyo i gynnal ein cynnydd a darparu gwerth i’n cynhyrchwyr llaeth a’n cwsmeriaid.

“Yn olaf, hoffem ddiolch i’r Cadeirydd presennol, Bernard Harris am ei holl waith caled dros y blynyddoedd a dymuno’n dda iddo i’r dyfodol.”