Bwyd a Diod Cymru yn Tokyo

Cefnogodd Hufenfa De Arfon dderbynfa busnes Bwyd a Diod Cymru yn Tokyo, a drefnwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog, Carwyn Jones yng nghartref Llysgennad Prydain yn Siapan. Cludwyd amrywiaeth o gynhyrchion Dragon ynghyd â thaflenni hyrwyddo i Tiger Nakajima, Prif Gynrychiolydd Siapan ar gyfer y digwyddiad a gynhaliwyd fis Medi. Daeth dros 140 o westeion dylanwadol o sectorau gwahanol i’r digwyddiad: FDI, Masnach, Twristiaeth a’r Wasg. Rahnnodd y Gweinidog neges gadarn i hyrwyddo cynhyrchion bwyd Cymru a’i safon eithriadol i farchnadoedd Siapan a marchnadoedd ehangach Asia.

Yn dilyn y digwyddiad adroddodd Yoko Kobori, Uwch Swyddog Materion Cymru y byddai’r Llysgennad Prydeinig yn Tokyo yn parhau ymlaen i hyrwyddo cynhyrchion Dragon i fewnforwyr a dosbarthwyr bwyd yn Siapan. Roeddent yn “dymuno hyrwyddo Caws a Chwrw Cymreig yn benodol yn 2016″.

Roedd hyn yn gyfle gwych i ehangu’r brand yn rhyngwladol, ac i hyrwyddo Caws Cymreig Dragon i brynwyr sy’n allforio. Oherwydd tarddiad a’r hanes sydd wrth gefn ein cawsiau Cymreig mae gennym stori ddiddorol i’w rhannu gyda’r prynwyr a mewnforwyr caws sydd eisiau caws Cymreig