Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechen

Mae Cydweithfa ffermwyr llaeth mwyaf Cymru, Hufenfa De Arfon wedi datblygu Cheddar aeddfed o geudwll llechen ar y cyd gyda Ogofau Llechi Llechwedd. Mabwysiadwyd ffordd draddodiadol a ddefnyddiwyd yn Ffrainc am ganoedd o flynyddoedd i aeddfedu caws, sef aeddfedu cheddar 500 troedfedd o dan y ddaear yn y ceudyllau cloddio dyfnaf.

Cludir caws o Hufenfa De Arfon ger Pwllheli i Geudwll Llechwedd yng nghanol Eryri a’i adael yno i aeddfedu am rai misoedd. Mae’r broses yma yn ychwanegu nodweddion unigryw i’r caws; ansawdd fwy cadarn a blas dwys gyda nodau sawrus cyfoethog. Gallwch wir flasu’r gwahaniaeth.

Unwaith mae’r caws 14 mis oed wedi aeddfedu torrir ef i flociau 1.25kg, yna ei drochi gyda llaw mewn cwyr o liw llechen glas; gorffenir gyda argraffnod Dragon. Datblygwyd y caws yma yn benodol i Sainsburys a bydd ar gael o 23 Ebrill 2014 ar y cownteri deli gyda chyfle i gwsmeriaid i flasu y caws cyn prynu. Bydd pecyn 200g yn cael ei lansio ymhlith amrywiaeth ‘Taste the Difference’ Sainsbury yn gynnar yn Hydref 2014.

“Rydym wedi gweithio gyda Sainsbury i ddatblygu cheddar sy’n wirioneddol yn unigryw ac yn gwrthdystio ein treftadaeth Gymreig. Rydym yn ddiolchgar iawn bod Ogofau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog wedi cytuno i gydweithio efo ni i aeddfedu y caws yn y ceudwll” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Mae’n dechneg aeddfedu arbennig a rydym yn hapus iawn gyda’r safon bwyta a’r blas anhygoel, ac yn hyderus y bydd ein caws yn profi llwyddiant mawr. Mae’r Hufenfa hefyd efo rhaglen o gynnyrch newydd i’w lansio yn nes ymlaen yn y flwyddyn”.