Y Wobr Amgylcheddol Orau i HDA

Mae Hufenfa De Arfon yn falch iawn ei bod wedi llwyddo i gyrraedd Safon Amgylcheddol Y Ddraig Werdd

Mae Hufenfa De Arfon yn falch iawn ei bod wedi llwyddo i gyrraedd Safon Amgylcheddol Y Ddraig Werdd Lefel Tri yn ei hymgyrch i ostwng ei hôl troed carbon ar ôl blwyddyn welliant sylweddol.

Llwyddodd y Cwmni leihau ei defnydd o drydan, dŵr ac olew o gryn swm ac mae hefyd wedi gostwng ei lefelau gwastraff gan sicrhau bod gymaint â phosibl ohono yn cael ei droi i ynni.

Ysgrifennydd y Cwmni, Elwyn Jones sy’n arwain ymgyrch HDA i warchod y blaned ym mhob ffordd posib. Edrychir a bobpeth, o brynu tanceri casglu llaeth newydd mwy effeithlon i leihau’r swm o gaws sy’n disgyn ar y llawr wrth gynhyrchu a phacio. Dywedodd: “Penderfynwyd rhai blynyddoedd yn ôl y dylem ni fel Cwmni Cymreig ymgymryd â Safonau Y Ddraig Werdd ac anelu i wella ein safonau amgylcheddol. Rydym yn gweithredu yn un o rannau prydferthaf y wlad, ac mewn diwydiant wedi ei sefydlu ar ffermio llaeth does dim mwy naturiol na gwarthet yn troi eu porfa ar y cae i laeth. Ar yr un pryd mae gwneud caws o safon dda ac i safon masnachu yn defnyddio llawer iawn o adnoddau o ran ynni a dŵr. Rydym yn Gwmni mawr a chymhleth ac mae’n rhaid i ni edrych ar ein defnydd o ynni, trydan a dŵr yn barhaus, ac ar sut y gallwn ni ddefnyddio llai o ynni pan mae’r Cwmni hefyd yn tyfu.”

Ar hyn o bryd mae HDA yn cynhyrchu dros oddeutu 15,000 tunnell o gaws y flwyddyn ac yn defnyddio dros chwe miliwn o oriau kilowat mewn trydan, bron i 150 miliwn litr o laeth, 1.5 miliwn litr o olew boeleri a 170,000 tunnell o ddŵr, digon i lenwi 68 pwll nofio Olympics! Yn ystod y 12 mis olaf gwelwyd gostygniad sylweddol yn y defnydd ynni: trydan o 7%, olew boeleri o 9% a dŵr o 8.5%, ac mae’r Cwmni 13% ar flaen ei thargedau i ostwng defnydd ynni.

Ychwanegodd Elwyn Jones: “Nid ydym yn gorffwys yn ôl nawr ein bod wedi llwyddo i gyrraedd Safon Y Ddraig Werdd Lefel 3. Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd lefel pedwar yn 2021 ac wrth gwrs y nod yn y diwedd yw cyrraedd lefel pump wrth inni ddal ati i dyfu’r busnes, cynnig rhagor o gyflogaeth yn lleol a pharhau i fod yn gyfrwng marchnad i ein haelodau.”