Gweithwraig bwyd-amaeth ifanc proffesiynol yn disgleirio gyda Gradd Meistr â Rhagoriaeth mewn BioArloesi

Graddiodd Lois Williams (25), Swyddog Cydymffurfiaeth Technegol yn Hufenfa De Arfon, yn ddiweddar gyda gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc) mewn BioArloesi o Brifysgol Aberystwyth. Mae Lois ar fin bod yn rhan o fesur ôl troed carbon gwaelodlin yr hufenfa drwy gydweithio’n agos â’i haelodau sy’n ffermwyr a pharhau i gyflawni Safon Amgylcheddol Draig Werdd Cymru Lefel 4.

Gyda’i chymhwyster newydd, daw Lois ag arferion a thechnolegau cynaliadwyedd blaengar gyda hi, ynghyd â’r sgiliau cyfathrebu i rannu’r wybodaeth hon yn effeithiol.

Fel cwmni llaeth cydweithredol mwyaf Cymru, mae Hufenfa De Arfon eisoes wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, gan weithio ar brosiectau i leihau’r effaith amgylcheddol drwy fesur ôl troed carbon, lleihau’r defnydd o ynni, a chydweithio â chyflenwyr i wella’r gallu i ailgylchu pecynnau.

Yn ei rôl mae Lois yn sicrhau ansawdd a diogelwch ar draws yr hufenfa ac yn helpu i gysylltu â’r aelodau sy’n ffermwyr. Dywedodd Lois, “Rydw i wedi bod yn gweithio yn Hufenfa De Arfon ers i mi raddio mewn Gwyddor Anifeiliaid yn 2020. Dechreuais yn y labordy fel Technegydd Sicrhau Ansawdd, ac yna cefais ddyrchafiad i fod yn Swyddog Cydymffurfiaeth Technegol yn 2022.

“Bydd fy nghymhwyster ôl-raddedig diweddar nawr yn fy helpu i gynorthwyo ffermwyr i leihau ôl troed carbon a chefnogi nodau cynaliadwyedd Hufenfa De Arfon. Rwy’n edrych ymlaen at roi fy holl ddysgu ar waith.”

Ychwanegodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, “Hoffem longyfarch Lois ar ei llwyddiant diweddar, camp a hanner. Mae ein buddsoddiadau mewn offer, adeiladau a cherbydau mwy effeithlon yn dangos ein hymrwymiad a’n hymagwedd ragweithiol tuag at warchod yr amgylchedd a llywio arferion cynaliadwy o fewn ein cadwyni cyflenwi. Gyda gwybodaeth a sgiliau Lois, bydd yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein strategaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”