Cynhyrchion
Mae gan Hufenfa De Arfon amrywiaeth eang o Gawsiau Cymreig premiwn mewn pecyn aml ffurf, ynghyd â detholiad o gawsiau Prydeinig tiriogaethol a menyn Cymreig hallt traddodiadol. Cartref y brand Dragon.
Cheese
Mae Hufenfa De Arfon yn darparu amrywiaeth o dros 40 o Gawsiau Cymreig a phecynnau amrywiol a hefyd detholiad o gaws Prydeinig tiriogaethol. Mae’r caws yn amrywio o Cheddar mwyn ieuanc i’r Cheddar Clasurol o ansawdd llawer mwy dwys.
Mae amrywiaeth caws archfarchnad, caws ar gyfer cynhwysion cyfanwerthu a’r gwasanaeth bwyd, caws ar gyfer delicatesen a chaws i allforio. Gellir darparu’r caws mewn pecynnau o aml ffurf; blociau caws i’r archfarchnad, caws wedi gratio mewn bagiau, caws wedi sleisio, blociau mwy ar gyfer y delicatesen a hefyd caws bylc ar ffurf 20kg.
Butter
Yn draddodiadol caiff Menyn Cymreig ei halltu. Yn haneysddol roedd economi Cymru yn ddibynnol ar fwyngloddio ac amaeth a defnyddiwyd bwyd hallt yn y diet i ailgyflenwi y lefelau halen a gollwyd oherwydd gwaith llafur trwm. Yn draddodiadol mae blasbwynt y Cymry yn fwy ‘hallt’, ac felly dylid halltu menyn Cymreig.
Er mwyn gwneud menyn o’r safon gorau, yn gyntaf mae’n rhaid cael hufen o ansawdd da. Yn Hufenfa De Arfon, derbynnir cydnabyddiaeth gyson bod ein llaeth o safon well na’r cyfartaledd cenedlaethol – diolch i’r porfeydd glas ffrwythlon Cymreig a’r glaw cyson - felly gwyddom fod llaeth Cymreig lleol ein haelodau yn cynnig y cynhwysyn crai perffaith.