Person Graddedig Arall i HDA
Mae Hufenfa De Arfon wedi penodi Sabel Wiliam i’r swydd Cynorthwyydd Cyfrifon/Dadansoddi. Mae Sabel, merch leol o Nefyn, yn ymuno â chwmni cydweithredol llaeth mwyaf Cymru yn dilyn graddio’n ddiweddar mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Lerpwl. Bydd y swydd newydd hon yn hanfodol i gynorthwyo gyda chynllunio mewnol a bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddadansoddi data a chostio.
Dywedodd Sabel Wiliam: “Dwi’n falch iawn o fod yn ymuno â Hufenfa De Arfon ar amser cyffrous iawn gydag ond ychydig wythnosau i fynd tan fyddwn yn agor y ffatri gwneud caws newydd. Dwi hefyd yn falch iawn o ymuno â chwmni lleol sydd ag enw mor dda. Yn ystod fy nghwrs gradd bum ar brofiad gwaith mewn bragdy bach a chefais flas ar weithio yn y diwydiant bwyd. Mae’r swydd hon yn siwtio fy nghryfderau a sgiliau rhif, a fy niddordeb mewn dadansoddi data. Bydd hefyd yn gyfle i mi ddatblygu a dysgu, yn arbennig yn y meysydd cyfrifo a thechnoleg gwybodaeth.”
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “dyma’r ail berson graddedig rydym wedi ei benodi yn y misoedd diweddar. Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol a chyffrous felly rydym yn atgyfnerthu’r tîm er mwyn sicrhau bod y busnes gyda’r bobl gorau i’n helpu ni gyflawni ein targedau. Rydym yn bleidiol iawn i benodi talent ifanc lleol sydd efo’r sgiliau angenrheidiol i helpu ni gyrraedd sialensiau newidiol y dyfodol. Gwelwyd bod angen atgyfnerthu’r tîm cyfrifon a ninnau’n agor y ffatri gaws newydd yn yr wythnosau nesaf. Bydd y dadansoddi data ychwanegol fydd Sabel yn ei wneud yn hanfodol i sicrhau gweithredu effeithlon ac esmwyth. Mi fydd Sabel yn aelod allweddol o’r tîm”.