Asbaragws a Cheddar Clasurol
Rysait y Gwanwyn: Asparagws gyda Cheddar Clasurol
Dyma rysait Gwanwyn syml a didrafferth sy’n gwneud blaenbryd neu ginio ysgafn. Defnyddiwch asparagws ffres y tymor i wneud pryd danteithiol wedi ei ysgeintio gyda siafins blasus Cheddar Clasurol.
Digon i 4
Cynhwysion:
16 picell asparagws
Bag o ddail salad parod
80g Cheddar clausrol wedi ei sleisio yn denau
Dresin:
4 llond llwy fwrdd olew olewydd
Croen a sudd un lemwn bach (neu finegr balsamig a dim siwgwr)
Llond llwy de o siwgwr caster
Pupur du mâl ffres
1/2 llwy de halen môr
1. Paratowch yr asparagws gan dynnu y bonynau caled.
2. Stemiwch yr asparagws am 4-5 munud tan yn frau.
3. Cymnysgwch gynhwysion y dresin gyda’i gilydd.
4. Rhowch lond llaw o ddail salad ar bob plât, rhowch yr asparagws ar ei ben.
5. Rhowch y dresin ac ysgeintio gyda Cheddar.
6. Gweinwch ar unwaith
Mwynhewch!