Wythnos Brecwast
Roedd Hufenfa De Arfon yn falch iawn o gefnogi “brecwast i bawb” a drefnwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru i godi arian at Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru. Darparwyd caws a menyn ar gyfer y brecwastau i’w gweini mewn pump fferm yng Ngogledd Cymru yn ystod wythnos brecwast ddiwedd Ionawr.
Cyfrannodd yr Hufenfa fenyn hallt Cymreig Dragon i’w roi yn hael ar dost trwchus a bara ffres ac roedd y cawsiau Cymreig Dragon yn ychwanegyn poblogaidd iawn i’r brecwast traddodiadol.
Paratowyd dau o’r brecwastau ar ffermydd ein haelodau: Madryn Isa a Mur Clwt Lloer yn Llŷn ac Eifionydd. Yn ogystal â sefydliad Calon Prydeinig y Galon Cymru, roedd y ddau frecwast yma hefyd yn codi arian at SANDS – Marwenedigaeth a Marwolaethau Newydd-Anedig, a DERWEN – Plant Anabl a Phlant gydag Anghenion Ychwanegol.
Dywedodd Peredur Williams, Rheolwr Maes Llaeth “Roeddem yn hapus iawn i gefnogi Undeb Amaethwyr Cymru a chyfrannu cynhyrchion i ddarparu brecwast Cymreig swmpus a blasus. Roedd rhai o’r brecwastau ar ffermydd ein haelodau felly roedd yn dda gallu cefnogi nhw hefyd. Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fach iawn i helpu i gefnogi elusennau mor werthfawr ag roedd yn wych clywed bod dros £5,500 wedi cael ei gasglu i gyd yn ystod yr wythnos.”