Canrif o Wasanaeth
Mae gennym staff ymroddedig a theyrngar yma yn HDA ac mae pedwar newydd nodi canrif o wasanaeth
Mae Hufenfa De Arfon yn falch iawn o fod yn gyflogwr allweddol yn yr ardal leol, a mwyfyth o hynny pan mae aelodau o staff yn cyrraedd cerrig milltir arwyddocaol. Mae gennym staff ymroddedig a theyrngar yma yn HDA ac mae pedwar ohonynt newydd nodi canrif o wasanaeth rhyngddynt; 25 mlynedd yr un.
Ymunodd Bryn Davies, Rheolwr Rhwydwaith Cyflenwi â’r busnes yn Nhachwedd 1995 am bythefnos i gyfro absenoldeb salwch ac, yn ei eiriau ei hun, mae’n “dal i aros iddynt ddod nôl!”. Yn wreiddiol o Chwilog, bellach yn byw ym Mhwllheli swydd gyntaf Bryn oedd potelu llefrith yn y Llaethdy; gweithiodd ei ffordd i fyny i fod yn Arweinydd Tîm ac yna Rheolwr Llaethdy. Pan gaeodd y Llaethdy aeth ymlaen i fod yn Rheolwr Cefnogi Gweithrediadau cyn cael ei benodi’n Rheolwr yr Adran Bacio. Eglurodd Bryn mai ei swydd bresenol yw Rheolwr Rhwydwaith Cyflenwi “Dwi yna yn bennaf i gefnogi’r gweithgaredd pacio sy’n tyfu ac yn ehangu. Dwi’n cydweithio’n agos efo’r adrannau i gyd yn HDA, a’r cyflenwyr i reoli stoc ac i ateb gofynion. Dwi’n mwynhau gweithio efo pobl gwahanol i ddatrys problemau.”
Mae Meic Roberts, Arweinydd Tîm yn yr Adran Bacio wedi gweithio yn yr adran yma ers y dechrau a phan ymunodd â’r Cwmni yn 1994 dywedodd “wnes i ‘rioed feddwl y baswn i dal yma 25 mlynedd yn ddiweddarach”. Ei gof cyntaf o weithio yn HDA yw rhoi cwyr ar gosynnau caws at y Nadolig a heddiw mae’n gyfrifol am redeg y llinellau a goruchwylio’r gwaith dydd i ddydd. Nid oes gan Meic unrhyw gynlluniau i newid gyrfa a dywed ei fod yn edrych ymlaen at barhau i weithio i HDA yn y dyfodol.
Hogyn o Langybi yw Keith Crews, Gweithredwr Pacio ac mae wedi byw ym Mhentreuchaf a Phenrhos, ond Pwllheli ydi adra wedi bod am y 22 mlynedd olaf. Ymunodd â HDA am gyfnod byr yn 1993 a daeth yn ei ôl yn 1995 ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Dechreuodd Keith weithio yn yr adran bacio ac yna, yn eu trefn, symud i’r Llaethdy, Storfa a’r Adran Bacio. Ei orchwyl o ddewis yw rhoi cwyr ar gaws ac mae’n mwynhau cludo’r Caws Ceudwll enwog i ag o Llechwedd. Ar ôl 25 mlynedd dywedodd Keith “dwi’n hapus yn gweithio yma yn HDA ac eisiau dal ati i weithio i HDA”.
Mae Keith yn feiciwr brwd ac mae'n anodd credu ei fod wedi dod ar ei feic i’r gwaith pob dydd am 25 mlynedd, ym mhob tywydd; 37,600 milltir! Un o’i atgofion gorau yw ennill ras feics elusennol drefnwyd gan HDA; roedd yn hynod o hapus ei fod wedi “beicio 20 milltir i orffen yn nhafarn Twnti, Rhydyclafdy cyn i rai hyd yn oed reidio 10 milltir!”
Yn olaf, mae Ken Jones, Gweithredwr Pacio yn byw ym Mhentrefelin a ni all gredu, "mae’r blynyddoedd wedi hedfan a dwi’n gobeithio y bydd HDA yn parhau i gyflogi pobl leol yn y dyfodol.” Eglurodd Ken “dwi’n gwneud be bynnag sydd angen wneud rwan a deud y gwir. Mae digon o hwyl a chwerthin i’w gael efo’r hogia”.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr "Mae ein pobl yn ymroddedig a theyrngar ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cyfraniad a'u gwaith caled i'r cwmni a gobeithio y byddent yn aros efo ni am flynyddoedd eto. Mae tyfiant a llwyddiant parhaus HDA wedi ei sefydlu ar weithlu ffyddlon ac hyblyg a bydd hyn yn dal yn wir yn y dyfodol."