Gwobrau Busnes y Daily Post

Mae’r tîm yma yn Hufenfa De Arfon ar ben eu digon ein bod ar restr fer gwobrau busnes y Daily Post.

Rydym yn un o 4 busnes sydd ar y rhestr fer am y wobr yng nghategori Busnes y Flwyddyn (dros 50 cyflogai) sydd wedi ei anelu i ddathlu llwyddiant rhai o gyflogwyr mawr Gogledd Cymru.

Daw hyn ym mlwyddyn pen blwydd HDA yn 80 oed ac yn dilyn buddsoddiad o £13.5m yn ein hadnoddau cynhyrchu a phacio caws yn Chwilog o dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Wyn Jones.

Yn dilyn y buddsoddiad mae cynhyrchiant wedi cynyddu 25% a sawl cytundeb mawr newydd wedi dod i law. Gwelwyd gwerthiant gorau erioed yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2018, £45.1m. O ganlyniad derbyniodd aelodau HDA y pris llaeth gorau ar gyfartaledd yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Bydd enillwyr Gwobrau Busnes y Daily Post yn cael eu datgelu mewn seremoni wobrwyo a chinio mawreddog ym Mhrifysgol Bangor nos Iau, 29 Tachwedd.

Dywedodd Cadeirydd Busnes Gogledd Cymru sydd hefyd yn Gadeirydd y panel beirniadu: “fel beirniad roedd yn galonogol gweld cynifer o geisiadau o safon uchel mewn categorïau gwahanol, ond yn fwy fyth amrywiaeth y ceisiadau ar gyfer gwobrau 2018. Roeddem wedi gweld rhai busnesau yn y gorffennol ond roedd y neges yn gadarn iawn nad oedd yr un wedi bod yn segur. Roeddent wedi gwneud cynnydd cynaliadwy a hyfyw dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd hyder yn amlwg ac nid oedd unrhyw brinder penderfyniadau buddsoddi ar gyfer twf yn y dyfodol. Ar y cyfan gwelwyd ymddiriedaeth yng Ngogledd Cymru fel ardal sy’n annog twf busnes ac yn hafan ar gyfer busnesau sy’n tyfu ac yn datblygu o dan amodau anodd heddiw.”

Gallwch ddarllen mwy yma: https://www.dailypost.co.uk/business/business-news/high-flying-firms-daily-post-15350687?fbclid=IwAR153WuUlSe7-cHBnoxKc48L6TGxmc-6ThqqcQsAXhJ7l3i5Lit1aURtMl0