Daily Telegraph
Yn gynnar yn Ionawr roeddem yn falch iawn o groeaswu Carolyn Hart a’r ffotograffydd Steve Ryan o’r Daily Telegraph yma ar gyfer eu herthygl. Buont yma yng ngogledd Cymru am ddiwrnod cyfan, ar fferm un o’r aelodau, ar y safle yn yr adrannau cynhyrchu a phacio cyn troi am Geudyllau Llechi Llechwedd i weld y caws yn aeddfedu yn y fwynfa. Diben yr erthygl oedd trafod y bartneriaeth sydd rhyngom ni, Sainsbury’s a Cheudyllau Llechi Llechwedd a hanes datblygu’r Cheddar o’r Ceudwll.
Gwelwyd yr erthygl yng nghylchgrawn y Telegraph ar 13eg Chwefror ac rydym yn hapus iawn gyda’r erthygl tair tudalen, yn arbennig efo’r ryseitiau yma ac acw. Mae’r ffotograffiaeth yn hynod ac yn cynnwys lluniau prydferth o Gefn Gwlad Cymru.
Os na welsoch yr erthygl roedd yn cynnwys ryseitiau blasus: Pate Cheddar Ceudwll, Sgons Caws a Thomato, Cawl Tatws Melys a Chennin a Chrempogau Madarch a Cheddar.