Llwyddiant Rhyngwladol i Brand Dragon

Derbyniodd Caws Dragon Hufenfa De Arfon ymateb gwych yn ystod ei ymweliad cyntaf â Gulfood yn Dubai; digwyddiad gwasanaethau bwyd, lletygarwch ac archfarchnadoedd mwyaf y byd. Yn ddiweddar, teithiodd tîm o’r Hufenfa yn Chwilog i’r sioe i hyrwyddo’r brand Dragon. Cafodd y cheddar Dragon Cymreig dderbyniad arbennig gan brynwyr bwyd archfarchnadoedd a dosbarthwyr bwyd rhyngwladol.

“Mae’r Brand Dragon wedi hen sefydlu yng Nghymru bellach, ond mae’r galw rhyngwladol am gynhyrchion llaeth a bwydydd Prydeinig yn tyfu. Roedd Gulfood yn llwyfan perffaith i lansio dros môr. Mi wnaeth y tîm gyfarfod â nifer o brynwyr rhyngwladol, o’r Dwyrain Canol, Asia ac Affrica yn benodol a chafodd y brand Dragon gymeradwyaeth eithriadol. Seren y sioe oedd y Cheddar clasurol gyda phawb yn mwynhau’r blas aeddfed, safon arbennig a’r ansawdd hufennog. Roedd yn cynnig alternatif gwahanol i’r cawsiau mwynach sydd ar gael ar hyn o bryd mewn gwledydd fel Asia a’r Dwyrain Canol” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Mai’n ddyddiau cynnar o hyd, ond gan ein bod wedi denu cymaint o ddiddordeb ac wedi gwneud nifer o gysylltiau allweddol rydym yn hyderus ac yn obeithiol o allforio’r brand Dragon i farchnadoedd mawr tros y môr yn y dyfodol agos.”

Roedd Hufenfa De Arfon ymhlith 4,200 o arddangoswyr a 20,000 brand a fu’n rhan o’r sioe pum diwrnod.