Ty Gobaith
Bu Heulwen Piggot a’i mab Daniel yn HDA ar 1af Ebrill ar ôl i’r teulu roi’r bid uchaf am daith o gylch yr Hufenfa mewn ocsiwn gynhaliwyd gan Tŷ Gobaith.
Cyfrannodd Hufenfa De Arfon ‘docyn cylchdaith’ ynghyd â hamper o gynhyrchion Dragon i ocsiwn drefnodd Tŷ Gobaith yn Nhachwedd 2015. Mae Tŷ Gobaith yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i bob cymuned: gofal nyrsio arbennig, cwnsela, empathi, trugaredd a dealltwriaeth ac mae ganddynt dimau cefnogi sy’n gweithio yn Nhŷ Gobaith ac yn y cartref. Roedd Hufenfa De Arfon yn falch iawn o allu cefnogi achos more werthfawr. Teulu’r Piggot ennillodd y ras yn yr arwerthiant a lwyddodd i gasglu £31,663.25 i gyd ar y noson.
Dywedodd Katrina Lawson, Swyddog Codi Arian yr Ardal “fe wnaethom gasglu swm anhygoel a bydd o help mawr i’r tîm roi cefnogaeth i blant na fydd yn byw i fod hen, eu rhieni a’u teulu. Hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad.”
Mwynhaodd y ddau eu hymweliad yn fawr; dysgu am y busnes, y broses o wneud caws a’r buddsoddiad newydd. Magwyd Mrs Piggot ar fferm laeth fechan yn Llanddaniel, Ynys Môn a dywedodd bod ganddi ddiddordeb gweld sut oedd llaeth yn cael ei brosesu mewn ffatri. Pan welodd yr hen wahanydd llaeth sydd gennym yn yr ystafell gyfarfod, daeth ag atgofion melys ohoni hi fel plentyn yn troelli’r handlen drom am gyfnod hir iawn i wahanu’r hufen o’r sgim.