Lidl UK
Mae Lidl UK, ‘Archfarchnad Gorau 2016’ cylchgrawn Good Housekeeping wed cyflwyno amrywiaeth newydd o gawsiau cheddar Cymreig o dan frand ‘Valley Spire’ Lidl. Dim ond yng Nghymru fydd y cynnyrch yma ar gael a Hufenfa De Arfon fydd yn cyflenwi’r caws yn dilyn ennill cytundeb newydd gyda Lidl Uk. Bydd HDA yn darparu Cheddar Cymreig i Lidl ac yn parhau i gyflenwi’r cwsmer gyda Cheddar Aeddfed yn ein brand Dragon i storfeydd Lidl yng Nghymru.
Dyma’r tro cyntaf i Lidl stocio amrywiaeth caws Cymreig yng Nghymru ac mae yn ategu at y cawsiau rhanbarthol eraill sydd ar gael yn eu storfeydd ar hyn o bryd. Bydd cawsiau Valley Spire Lidl i gyd yn cael ei wneud gyda llaeth Cymreig ein haelodau sy’n cynhyrchu o gylch Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Bydd yr amrywiaeth yn cynnwys Cheddar Mwyn Cymreig, Cheddar Canolig Cymreig, Cheddar Aeddfed Cymreig a Cheddar Goraeddfed Cymreig.
Dywedodd Nick Beadman Rheolwr Cyfrifon Cenedlaethol Hufenfa De Arfon: “rydym yn hynod falch ein bod yn cyflenwi Lidl gyda’u hamrywiaeth cyntaf o Cheddar Cymreig i’w werthu’n genedlaethol. A ninnau newydd agor ffatri cynhyrchu caws newydd yn yr Hufenfa, mae’r berthynas newydd yma gyda Lidl yn bwysfawr i ni fel cydweithfa ac i’r economi lleol hefyd. Mae gweithio gydag archfarchnad fel Lidl yn ein galluogi ni i atgyfnerthu hyder ein cyfranddalwyr yn nyfodol ein busnes. Rydym yn ddiolchgar o gefnogaeth barhaus Lidl ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ac am berthynas hir gyda’r archfarchnad.”
Dywedodd Joshua Smith, Uwch Reolwr Pryniant Lidl: “Roedd ehangu ein hamrywiaeth i gynnwys Cheddar Cymreig yn ddatblygiad naturiol a phwysig. Mae Hufenfa De Arfon yn gwneud cynhyrchion Cymreig o safon dda ac mae’n cynnig tarddle lleol i’n cynhyrchion Valley Spire. Rydym yn hapus iawn bod dwy ran o dair o’r cynhyrchion sydd ar ein silffoedd yn barhaol yn gynhyrchion gan gyflenwyr Prydeinig. Mae nifer ohonynt yn gyflenwyr Cymreig ac mae’r berthynas gyda nhw yn gadarn iawn ac mae ein hymrwymiad i gefnogi ffermwyr lleol yn parhau”.