Cefnogi Ysgol Leol

Roedd Hufenfa De Arfon yn falch iawn o gefnogi Martin Griffiths, Fferm Ffosygrafel yn ddiweddar pan wahoddodd ef ysgol gynradd leol ar ei fferm. Gan fod maes llafur yr ysgol yn canolbwyntio ar gynhyrchiant bwyd, yn garedig iawn gwahoddodd Martin Ysgol gynradd Rhydypennau ar ei fferm.

Fel rhan o’r ymweliad, cafodd y plant gyfle i weld y gwartheg yn cael eu godro a dysgu am ddefnydd llaeth ac o dro ei gynhyrchiant i gaws. Roedd Hufenfa De Arfon yn hapus i roi ychydig o gaws o’r dewis caws Dragon eang i’r plant flasu ar y diwrnod.

Dywedodd Peredur Williams, Rheolwr Maes Llaeth, “Pan yn bosib rydym yn trio helpu aelodau a ffermwyr gyda gweithgareddau o’r math yma, yn enwedig gan ei fod er diben addysg plant lleol. Mae’n bwysig bod plant yn deall o le mae eu bwyd yn dod ac ein bod yn chwalu’r syniad ei fod yn cyrraedd yn wyrthiol yn y siop! Roeddem wrth ein bodd gallu rhoi caws o’r safon orau i’r plant gael samplo’r cynnyrch gorffenedig—wedi’r cyfan nhw yw cwsmeriaid y dyfodol!”