Nyrsys MacMillan

Fel rhan o’i gweithgareddau Nadolig, casglodd Hufenfa De Arfon £475 tuag at Nyrsys MacMillan. Trefnodd y Cwmni cydweithredol ddigwyddiadau elusennol i godi arian yn cynnwys raffl Nadolig a gwerthu ticedi ‘Selar Caws a Gwin’ ym mharti Nadolig staff.

“Rydym yn cynnal raffl Nadolig blynyddol yn benodol ar gyfer codi arian at elusen ac mae staff yn dewis elusen wahanol bob blwyddyn” dywedodd Haf Williams o Hufenfa De Arfon. “Mae Nyrsys MacMillan yn elusen arbennig iawn sydd yn agos at galond rhai o’r staff ac roeddem yn hapus iawn i godi arian at achos mor bwysig. Mae Nyrsys MacMillan yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy, yn enwedig i gymuned wledig fel hon”.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran neu a gyfrannodd gwobr raffl, yn enwedig Larch Ltd, GAP Personnel, Parkwells, CHR Hansens, Cwrw Llyn, Comcen, Anglesey Commercial Spares a Imperial Commercials.”

Cyflwynodd Haf y siec ar ran yr Hufenfa i Eleri Brady, Rheolwraig Codi Arian Gogledd Cymru a ddywedodd “mae Nyrsys MacMillan yn ddiolchgar iawn o bob rhodd. Mi fydd yr arian gododd Hufenfa De Arfon yn unig yn gallu cynnig cymorth grant ariannol i ddau deulu sydd angen triniaeth”.