Cyfrifiannell Pris Llaeth

Fel rhan o’r dathliadau i nodi eu 75ain Penblwydd, yn ddiweddar mae Hufenfa De Arfon wedi lansio gwefan newydd i gofnodi ei hanes, tarddiad, amrywiaeth cynnyrch a chynlluniau twf uchelgeisiol.

Un o nodweddion hollbwysig y wefan yw Cyfrifiannell Pris Llaeth; credir mai dyma’r cyntaf o’i fath yn y byd. Bydd y system, sy’n hwylus i’r defnyddiwr ac wedi ei anelu yn benodol at ffermwyr sy’n cyflenwi yn barod a phroseswyr eraill, yn galluogi cymharu prisiau llaeth cyfredol gyda rhaglen pris llaeth yr Hufenfa. Bydd yn rhaid nodi data llaeth am y 12 mis diwethaf, yn cynnwys cynhyrchiant llaeth misol, protein, braster, cyfrif bactoscan a chyfrif celloedd somatig yn y gyfrifiannell, a fydd yna yn rhoi amcangyfrif o’r taliad llaeth misol a’r refeniw blynyddol.

“Roeddem eisiau cynnig system oedd yn hawdd i’w defnyddio er mwyn helpu ffermwyr i gymharu eu cytundeb pris cyfredol gydag un y ni, ac yn well na hynny gallent ei wneud o’r gadair freichiau. Credwn ei fod yn declyn defnyddiol iawn i unrhyw ffermwr sy’n ystyried newid i broseswr newydd. Mae gan Hufenfa De Arfon gynlluniau twf uchelgeisiol ac felly rydym yn chwilio am gyflenwyr newydd sydd eisiau ymuno â’r Gydweithfa” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr yr Hufenfa De Arfon “Hefyd, yn ddiweddar rydym wedi penodi aelod arall at y tîm rheoli maes llaeth sy’n rôl hanfodol ac yn darparu cyswllt pwysig rhwng y cynhyrchwr a’r proseswr.”

Mae’r wefan yn ddwyieithog gyda fersiwn Gymraeg a Saesneg, ac er mwyn tynnu sylw at hanes yr Hufenfa, mae’r wefan yn edrych yn ôl ar y 75 mlynedd olaf ac yn cynnwys hen luniau.

“Credwn ei fod yn bwysig i gydnabod ein hanes, wedi’r cyfan ni yw’r Cwmni Ffermwyr Llaeth hynaf Cymru. Daethom ar draws llawer o wybodaeth ddiddorol wrth gasglu deunydd ar gyfer y wefan, er enghraifft, bu’r Hufenfa yn cynhyrchu caws Feta ac yn ei allforio i Groeg ar un adeg! Yn ogystal â chipolwg ar y gorffennol, rydym hefyd wedi canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol, yn cynnwys mewnwelediad diddorol i sut rydym yn gwneud ein caws llwyddiannus.”

Crëwyd gwefan newydd Hufenfa De Arfon www.sccwales.co.uk gan asiant Reech Media o Swydd Amwythig.