Sioe Gaws Rhyngwladol Nantwich

Cynhelir y Sioe Gaws Rhyngwladol fis Gorffennaf yn Nantwich yn flynyddol ac mae’n bosib iawn mai hon yw’r sioe gaws mwyaf yn y byd ac un o’r digwyddiadau mwyaf mawreddog yn y calendr bwyd. Gan fod y digwyddiad yn uchel ei pharch yn y byd caws mae Hufenfa De Arfon yn mynd draw am Sir Gaer i fod yng nghanol y bwrlwm.

Mae ein safonwyr caws profiadol yn cymryd rhan allweddol ac yn rhan o’r tîm beirniadu sy’n blasu cawsiau, eu safoni ac yn pennu gwobrau i’r gorau allan o amrywiaeth eang o gawsiau rhanbarthol a rhyngwladol. Eleni roedd 5000 o gynhyrchion caws a llaeth o 27 gwlad yn cystadlu.

Pob blwyddyn, Hufenfa De Arfon sy’n rhoi’r wobr am y Caws Cymreig Gorau. Pan noddwyd y wobr yma roeddem eisiau i’r tlws dynnu sylw ynghanol y môr o dlysau arian. Roeddem eisiau rhywbeth hynod Gymreig o ran dyluniad a steil, felly be well na thlws trawiadol mewn llechen Gymreig ar gyfer y Caws Gorau o Gymru.

Cawsom lwyddiant gyda’r caws sleis ac arddangosfa bwrdd caws yn ennill gwobrau.

“Mae gwobrau fel rhain yn feincnod amhrisiadwy o safon i gynhyrchwyr. Mae’r gystadleuaeth yng Ngwobrau Caws y Byd yn llym iawn ac mae cymaint yn cystadlu. Mae derbyn gwobrau mawreddog am ein brand Dragon yn ein galluogi ni i ddangos yr amrywiaeth eithriadol o gynhyrchion a wneir yma” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “mae cynnyrch yn cael ei flasu yn ddienw felly’r blas a’r safon yw’r canolbwynt yn hytrach na brand neu becyn ffansi.”

Yn y sioe eleni, cyfarfu Linda Lewis-Wiliams ein Rheolwraig Datblygu Cynnyrch â’r cogydd enwog a phersonoliaeth teledu, James Martin a Will Holland, Cogydd o Fwyty Coast a enillodd wobr AA Bwyty Cymru 2015-2016. Roedd y ddau yn cynnal arddangosfeydd coginio yn y sioe deuddydd.

Mae Sioe Gaws Rhyngwladol yn Nantwich Sir Gaer yn ddigwyddiad blynyddol. Nodwch ddyddiadau flwyddyn nesaf yn eich dyddiadur:

Dydd Mawrth, 25ain Gorffennaf – Diwrnod Masnach a Beirniadu

Dydd Mercher, 26ain Gorffennaf – diwrnod agored i’r cyhoedd