Noddi Sioe Laeth Bridwyr Aber

Roedd Hufenfa De Arfon yn hapus iawn i noddi Sioe Laeth Rhithiol Bridwyr Aberystwyth yr haf yma. Ymwelodd y clwb â’r Hufenfa nôl yn Mai 1993. Cawsant eu boddi gyda safon y cynnyrch, arweiniaeth a phwysigrwydd eu cynhyrchwyr a’r gymuned i’r Cwmni ac o ganlyniad ymunodd nifer o’r grŵp â’r Gymdeithas ar y pryd ac mae’r rhan fwyaf yn parhau’n aelodau gwerthfawr heddiw. Ar ôl toriad, ail ffurfiwyd y clwb yn 2018 ac ers hynny mae wedi bod yn llwyfan i aelodau o’r un meddylfryd gymdeithasu’n anffurfiol.

Fel pob dim arall rhoddodd Cofid-19 stop ar eu gweithgareddau, ond er mwyn cadw’r momentwm penderfynodd Clwb y Bridwyr gynnal Sioe Laeth rhithiol ac aeth hynny ymlaen gyda chefnogaeth nawdd gan HDA a Worldwide Sires. Mr Keith Ratledge, aelod o’r clwb gydlynodd y digwyddiad gyda Mr Richard Hughes yn arwain fel y beirniad. Cafwyd nawdd gan Ms Rosalind Williams hefyd drwy rodd o gwpan her wedi ei engrafu er cof am Mr Dennis Morgan.

Arsylwodd y beirniad, "roedd yn bleser beirniadu’r gystadleuaeth, roedd y safon yn wych, yn glod i bawb a gymerodd ran. Mae’r syniad o’r radd flaenaf...rwy’n credu y gallai ddod yn ddigwyddiad blynyddol cyffrous.”

Roedd Teulu Jenkins, Cerrigcaranau fferm laeth organig ar eu gorau gyda Elery Shottle Caryl 5 yn cael ei dyfarnu y Pencampwr a Sahara Shotglass Isa yn Bencampwr wrth gefn.

Bu aelodau HDA hefyd yn llwyddiannus yn y digwyddiad gyda P. Evans & S. Cowan, Aberbrwynen yn derbyn y wobr gyntaf yn y dosbarth Heffer o unrhyw frid arall/croesfrid mewn llaeth a Theulu Rees, Pencwm/Maesllyn yn yr ail safle yn y dosbarth yma a’r dosbarth Heffer Unrhyw oedran/unrhyw frid. Bu Teulu Morgan, Tynbeili hefyd yn llwyddiannus yn y dosbarth Buwch Holstein/Friesian mewn Llaeth a Buwch sydd wedi rhoi o leiaf 50 tunnell o laeth. Llongyfarchiadau mawr i bawb

Dywedodd Gaynor James, Dolfor, aelod HDA ac Ysgrifennydd y Clwb “hoffem ddiolch i Hufenfa De Arfon Cyf a Chaws Dragon am eu nawdd hael a’r hamperi gwerth chweil i enillwyr y dosbarthiadau. Hoffem hefyd ddiolch i un o aelodau’r clwb Mr Gerwyn Jones o Worldwide Sires am ei nawdd ef a phob un arall gefnogodd y sioe.”