Rhisiart yn Ymddeol ar ôl Gwasanaeth Ffyddlon
Yn y Cyfarfod Blynyddol fe wnaeth Rhisiart Lewis, Coed Cae Gwyn, Llangybi ymddeol yn swyddogol fel Ffermwr Gyfarwyddwr ar Fwrdd Hufenfa De Arfon ar ôl bron i 44 mlynedd o wasanaeth. Fe’i adnabyddir yn well fel ‘Dic Coecia’; mae wedi bod yn aelod ar y Bwrdd ers 1974 ac yn Gadeirydd o 1992-2010 ac ers hynny wedi parhau yn aelod gweithgar.
Yn y Cyfarfod Blynyddol, ar ran y Gymdeithas diolchodd Moss Jones, Llywydd iddo am ei gyfraniad a’i wasanaeth hir. Dywedodd “roedd yn amser anodd pan etholwyd Dic yn Gadeirydd, ond gyda chyfoeth ei brofiad, cysylltiadau a’i wybodaeth am y diwydiant llaeth; ei frwdfrydedd ac ei ymroddiad fe wnaeth lywio’r Gymdeithas ymlaen i barhau i fod yn gydweithfa llwyddiannus. Mae’n uchel ei barch ymhlith ffermwyr yr ardal, a’r gymuned estynedig.”
Cymeardwyodd y Llywydd ei waith diflino i’r diwydiant llaeth gan nodi fod ei wasanaeth i’r sector llaeth Cymreig, yn deilwng iawn, wedi cael ei gydnabod pan dderbyniodd OBE ar restr anrhydeddau pen blwydd y Frenhines.
Arsylwodd Bernard Harris, Cadeirydd “yn amlwg rydym yn ddiolchgar iawn i Rhisiart am ei waith caled a’i frwdfrydedd parhaus dros y degawdau. Rydym yn ddyledus iawn am yr amser a’r ymdrech aruthrol mae wedi ei fuddsoddi i Hufenfa De Arfon. Mae wedi bod yn aelod pwysig ar y Bwrdd mewn cyfnod pan wnaeth yr Hufenfa fwynhau buddsoddiad a thwf sylweddol. Dymunwn ymddeoliad hir, hapus a iach iddo.”