Sial Paris

Mae’r tîm Dragon yn falch iawn eu bod yn mynd i Baris wythnos nesaf i arddangos ein cynhyrchion Cymreig i gynulleidfa rhyngwladool yn un o sioeau bwyd ac arloesedd mwyaf y byd.

Cynhelir Arddangosfa Bwyd ac Arloesedd SIAL ym Mharis ac mae disgwyl i dros 7000 o gwmnïau o dros 100 o wledydd fynychu’r digwyddiad eleni o 21-25 Hydref.

Mae hwn yn llwyfan gwych i arddangos ein cynhyrchion i’r byd ehangach ac yn gyfle i ni gyflwyno rhai o’n cynhyrchion newydd wrth i ni geisio cynyddu ein hallforion. Ymhlith y cawsiau yn yr arddangosfa fydd ein Cheddar Llai Braster sydd wedi ennill y wobr oruwch a’r caws Cymreig gorau yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. Byddwn hefyd yn cyflwyno ein Cheddar Hanner Braster newydd a enillodd y wobr aur yn Sioe Gaws Rhyngwladol Nantwich ynghyd â’n caws Caerffili Cymreig, Wensleydale a Cheshire.

Yn ogystal, bydd cyfle i flasu ein Cheddar o’r Ceudwll Llechen moethus wedi ei wneud gyda wisgi Penderyn a lansiwyd eleni i ddathlu ein pen blwydd yn 80. Gwnaethpwyd hwn drwy gydweithrediad Ogofau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog a chyd-frand Cymreig, wisgi Penderyn.

Bydd ein stondin yng nghongl Bwyd a Diod Cynulliad Cymru yn SIAL a chyda chynhyrchwyr Cymreig eraill ac edrychir ymlaen at atgyfnerthu rhai o’n cysylltiadau lleol ac at greu rhai newydd.

Dywed Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Mae SIAL o fudd mawr i Hufenfa De Arfon gan ei fod yn darparu llwyfan da i ni ymestyn ac ehangu ein marchnadoedd. Mae’n amser cyffrous i HDA, ac ar ôl i ni fuddsoddi £13m yn ein hadnoddau gwneud, a phacio caws mae cynyddu gwerthiant allforion yn nod bwysig i’n strategaeth am dwf parhaus yn y blynyddoedd nesaf.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddangos rhai o’r cynhyrchion newydd rydym wedi eu datblygu i’r gynulleidfa rhyngwladol yn cynnwys y Cheddar Llai Braster, Cheddar Hanner Braster, y caws Caerffili a’r Cheddar o’r Ceudwll Llechen moethus wedi ei fwydo mewn wisgi”