Hysbyseb Teledu

Rydym yn hapus iawn ein bod bellach wedi lansio ein hysbyseb teledu newydd ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth ar hyd a lled Cymru bod ein cawsiau Dragon i gyd, 100% yn cael eu gwneud gyda llaeth Cymreig.

Lansiwyd ef i gyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi 1af Mawrth gyda’r llinell tag ‘Balch o fod yn Gymraeg’. Merch ifanc, Efa Roberts disgybl yn Ysgol Tryfan Bangor yw wyneb yr ymgyrch.

Mae’r hysbyseb yn cael ei ddarlledu ar drothwy’r diwrnod mawr ar 1af Mawrth i ddathlu’r ffaith bod caws Dragon yn cael ei wneud yn lleol yma yn Chwilog gyda llaeth sy’n 100% Gymreig ac y dod o ffermydd ein 129 aelod ar draws gogledd a chanolbarth Cymru.

Dyma’r ail hysbyseb i Efa serennu ynddo i Hufenfa De Arfon yn dilyn ail-frandio ein brand caws Dragon wrth i’r busnes barhau i ehangu ei sylfaen cwsmer yng Nghymru. Rhyddhawyd yr hysbyseb cyntaf yn Hydref y llynedd gydag Efa a’i ‘thad’ ar sgrîn, un o’n haelodau John Hughes o Ynysgain Fawr ger Criccieth.

Ar gyfer yr ail hysbyseb ymwelodd Efa ag Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug, ysgol gynradd cyfrwng y Gymraeg yn Aberfan, Merthyr Tydful gyda’n criw ffilmio i ddarllen pennill am pam oedd mor falch o’i thad. Rydym hefyd yn ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i rannu #whatmakesyouproud.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym yn falch iawn mai ein ffermwyr aelodau yw perchnogion y busnes a’u bod i gyd yn Gymreig, a bod ein cawsiau i gyd yn cael eu g wneud gyda llaeth Cymreig. Roeddem eisiau dathlu hynny ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi a ninnau yn recriwtio mwy o ffermwyr Cymreig ac yn ehangu ein gwerthiant caws Dragon i archfarchnadoedd ledled Cymru ac ar y marchnadoedd rhyngwladol.”

“Crëwyd y stori sydd tu ôl i’r ymgyrch hysbysebu i ddathlu balchder mewn Cymreictod, gwerthoedd teulu a chynnyrch lleol da, ac mae hyn i gyd yn adlewyrchu ein hethos fel cwmni. Roedd yn bwysig i ni gynnwys pobl leol yn yr ymgyrch ac mae Efa yn wych yn y brif ran. Rydym wedi bod yn cynhyrchu caws Cymreig yng Nghymru ers wyth degawd a chredwn fod hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono.”