Dau benodiad allweddol

Mae Hufenfa De Arfon wedi cryfhau dwy adran bwysig i’r busnes wrth benodi dau weithiwr proffesiynol y diwydiant; Carys Evans sy’n ymuno â’r Tîm Rheoli Maes Llaeth a Nick Beadman a recriwtwyd i weithio yn yr Adran Marchnata.

Mae Carys yn ymuno â Chwmni Cydweithredol mwyaf Cymru ar ôl 34 mlynedd yn gweithio i Genus Breeding. Ei chyfrifoldeb fydd gweithredu fel un o’r prif gysylltiadau rhwng y ffermwyr, cynhyrchwyr a’r Hufenfa. Bydd Carys hefyd yn chwilio i recriwtio cyflenwyr newydd i gefnogi cynlluniau twf cyffrous Hufenfa De Arfon.

Er mwyn cryfhau’r tîm marchnata, mae gan Nick wybodaeth eang am y diwydiant caws ac yntau wedi gweithio i Long Clawson ad Norseland. Mae Hufenfa De Arfon wedi cael perthynas hir iawn a llwyddiant gyda nifer o’r archfarchnadoedd mawr ac mae Nick wedi i ymuno i gynorthwyo i reoli a gwthio’r prif gyfrifon yn eu blaen.

“Mae gan Hufenfa De Arfon gynlluniau twf uchelgeisiol felly rydym yn cryfhau ein tîm er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo. Mae cyswllt ar y fferm yn rôl elfennol gan ei fod bod yn darparu’r dolen rhwng y cynhyrchwr a’r Proseswr. Fel rhan o’r cynlluniau twf mae’n rhaid i ni hefyd chwilio am gyflenwyr newydd i ymuno â’r Gydweithfa ac yn amlwg mae cyswllt ar y fferm yn hanfodol i hynny” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr. “Fel rhan o’r cynlluniau yma, mae’n rhaid i ni gryfhau ein cefnogaeth marchnata a thîm gwerthu i ofalu am ein cyfrifon mawr wrth i ni weithredu mewn marchnad sy’n gystadleuol iawn. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y 12 mis olaf o ran ein gweithrediadau masnachol a marchnata a bellach rydym mewn safle da i wthio gwerthiannau gyda’n cwsmeriaid presennol a newydd. Mae’n bwysig iawn bod gennym y bobl gorau i gyflawni’r targedau ac felly rydym yn falch iawn o groesawu Nick i’r tîm”.