Gwobr Aur y Byd

Cipiodd Hufenfa De Arfon y wobr Aur am ei chaws Red Leicester yng nghystadleuaeth fawreddog Gwobrau Caws y Byd a gynhaliwyd yn Norwy. Ar ben hynny, enillodd ei cheddar aeddfed iawn y wobr Arian a’r cheddar canolig a cheddar llai braster y wobr Efydd. Daw hyn â’r cyfanswm gwobrau am 2018 yn 69.

Mae’r Red Leicester ar gael i gyfanwerthwyr mewn blociau 20kg ac fe’i werthir mewn rhagbecynnau yn label eu hun yr archfarchnadoedd ar draws Cymru.

Yn ogystal, derbyniodd y Red Leicester y wobr aur ac arian yng nghystadleuath Gwobrau Caws a Chynnyrch Llaeth Rhyngwladol a gynhelir yn Nantwich. Enillwyd 10 o wobrau yno i gyd gan gynnwys Aur am y caws hanner braster brand Dragon ac arian am y cheddars llai braster. Dyfarnwyd y caws llai braster brand Dragon y gorau yn y sioe a’r caws goruchaf yn Sioe Frenhinol Cymru 2018, a’r caws Cymreig gorau gan ei wneud y caws gorau a wneir yng Nghymru.

Daeth hyn yn dilyn cyffro ail frandio y cawsiau Dragon pobolgoaidd a wneir yma yn HDA. Dathlwyd ein pen blwydd yn 80 hefyd yn 2018.

Daeth y llwyddiant hefyd ar ôl buddsoddiad sylweddol o £13.5m yma yn HDA. Buddsoddwyd mewn unedau prosesu caws a phacio modern gan ganiatáu i gawsiau newydd gael eu cynhyrchu gan ddefnyddio technegau traddodiadol ar raddfa ddiwydiannol ac addas ar gyfer archfarchnadoedd Prydain a’r marchnadoedd allforio.

I grynhoi 2018, llwyddodd HDA i ennill 15 gwobr Aur, 22 Arian, 26 Efydd a chwech o wobrau ychwanegol a roddwyd ymhlith y gorueon gan gynhyrchwyr eraill yn cynnwys Gwobrau Gwir Flas, Sioe Sir Dyfnaint, Gwobrau Caws Prydain, Sioe Frenhinol Cymru, Gwobrau Caws Rhyngwladol, Gwobrau Caws y De Orllewin, Gwobrau Caws Byd Eang a Gwobrau Caws y Byd.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr:

Mae Gwobrau Caws y Byd wir yn ddigwyddiad byd-lydan ac rydym yn falch ofnadwy ein bod wedi derbyn gwobrau Aur, Arian ac Efydd am ein cawsiau â chynifer o gystadleuwyr. Mae hyn yn newyddion gwych i’n staff ac ein 125 aelod sy’n ffermwyr Cymreig ac sy’n cyflenwi’r llaeth i wneud y caws.